Hen Bethau a Nwyddau Cartref

Mae'r ystafell werthu yng Nghanolfan Werthu Gaerwen yn cynnal arwerthiannau misol rheolaidd o Hen Bethau a Chelf Gain ac eitemau'r Cartref a Chasgladwy. Fel arfer cynhelir y rhain ar y dydd Iau cyntaf neu'r ail a'r dydd Iau olaf o bob mis.

Cewch weld lotiau'r Ocsiwn Hen Bethau a Chelf Gain rhwng 9:30-12:30pm a 2:00-6:00pm ar y dydd Mercher cyn yr arwerthiant, yn ogystal ag ar fore'r ocsiwn o 8:30am.

Cewch weld lotiau'r Ocsiwn Nwyddau i'r Cartref a Chasgladwy rhwng 2:00-5:00pm ar y dydd Mercher cyn yr arwerthiant, yn ogystal ag ar fore'r ocsiwn o 8:30am.

Bydd yr ocsiwn yn dechrau am 10:00am ac yn parhau trwy'r dydd heb egwyl. Tuedda ein Harwerthwr werthu oddeutu 120 lot bob awr. Mae digonedd o lefydd parcio ar y safle a chyfleuster caffi.

Gwerthu

Cyflwyno eitemau i ocsiwn Morgan Evans
Rhaid i chi gwblhau ffurflen fynediad yn llawn. Gallwch lawrlwytho'r ffurflen fynediad ynghyd â'r telerau ac amodau drwy bwyso ar y ddolen hon. Fel arall, gallwch wneud cais i'r ffurflenni gael eu hanfon atoch chi drwy gysylltu â swyddfa'r ystafell werthu ar 01248 421 582 (opsiwn 2).

Unwaith y byddwch wedi llenwi'ch ffurflen, gwnewch gopi ohoni i'ch cofnodion chi, a dychwelyd y copi gwreiddiol i Swyddfa'r Ystafell Werthu.

Danfon eitemau i'r Ystafell Werthu
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen, byddwn yn cysylltu â chi i drafod dyddiadau ar gyfer danfon yr eitemau i'r Ystafell Werthu.

Noder: Gallwn dderbyn eitemau ar ddyddiau/amseroedd derbyn dynodedig neu drwy apwyntiad cynharach yn unig.

Os na allwch ddod â'ch eitemau i'r Ystafell Werthu neu os oes gennych eitemau sy'n anodd eu trin i'w gwerthu, gallwn roi manylion i chi o gwmnïau lleol a all gasglu a danfon yr eitemau i ni.

Unwaith y bydd eich eitemau yn cyrraedd yr Ystafell Werthu, rhoddir cod iddynt a fydd yn unigryw i'r Gwerthwr.

Os ydych yn cyflwyno eitemau i'r ocsiwn Hen Bethau a Chelf Gain, cewch eich hysbysu o'r rhifau Lot a disgrifiad byr o'ch eitemau a chopi cwrteisi o'r catalog. (Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael i'r ocsiwn eitemau Cartref).

Ar adegau, gellir cyflwyno eitemau i'w gwerthu dros fwy nag un dyddiad ocsiwn.

Diwrnod yr Arwerthiant
Nid oes angen i'r Gwerthwr fynychu'r ocsiwn, ond mae croeso iddo/iddi fynychu.

Lotiau nad ydynt yn Gwerthu
Os nad yw eich eitem yn gwerthu y tro cyntaf iddo gael ei gyflwyno i'w werthu, caiff ei gyflwyno am yr ail waith yn awtomatig. Fodd bynnag pan fo hyn yn digwydd, cyflwynir yr eitem heb isafswm pris. Os nad yw'r gwerthwr yn dymuno gwerthu'r eitem heb isafswm pris, bydd angen casglu'r eitem cyn pen dau ddiwrnod o'r ocsiwn gwreiddiol. Os nad yw eitemau yn gwerthu ar ôl cael eu cyflwyno am yr ail waith, bydd angen i'r Gwerthwr gasglu'r eitemau nad ydynt wedi'u gwerthu cyn gynted â phosibl.

Talu
Tynnir 20% o gomisiwn oddi ar y pris gwerthu. Codir TAW, hefyd. Fel arfer bydd y Gwerthwr yn derbyn y taliad siec oddeutu deg diwrnod yn dilyn yr arwerthiant. Gellir trefnu taliad yn uniongyrchol i gyfrif banc drwy gytundeb cyn yr ocsiwn.

Prynu Eitemau

Cofrestru
Os ydych chi'n gwsmer newydd i'n hystafell werthu ac yn bwriadu gwneud cynnig ar eitem yn bersonol, bydd angen i chi adael eich manylion yn y swyddfa (sydd gyferbyn i'r llwyfan) o fewn yr ystafell werthu, yna cewch rif gwneud cynigion.

Os ydych wedi dod o hyd i'n hocsiwn ar-lein a hoffech wneud cynnig ar eitem, anfonwch e-bost at saleroom@morganevans.com gyda'ch manylion cyswllt llawn, gan gynnwys cod post, a rhifau ffôn cynradd ac eilradd. Yn ogystal, gofynnwn am ryw ffurf o brawf adnabod. Gall hyn fod ar ffurf bil gwasanaethau diweddar (yn dangos eich enw a'ch cyfeiriad), trwydded yrru neu basbort â llun. Unwaith y byddwn wedi cadarnhau derbyn eich prawf adnabod, ni fydd gofyn i chi ei ddarparu yn y dyfodol.

Gwneud Cynigion

Cynigiwn bedair ffordd o wneud cynigion ar eitemau:

Yn Bersonol – pan fo cwsmer yn mynychu'r ystafell werthu i wneud cynnig ar lot.

Cynnig Comisiwn/Cynnig Absennol — pan na allwch fynychu'r ocsiwn yn bersonol. Bydd yr Arwerthwr yn cynnig ar eich rhan.
Bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Gynnig Comisiwn, yn nodi eich manylion cyswllt llawn, y lot yr hoffech roi cynnig arno a'ch cynnig uchaf. (Cofiwch gymryd i ystyriaeth y Premiwm Prynwyr o 20% a TAW fel y cyfanswm i'w dalu).

Gallwch lawrlwytho ffurflen Cynnig Absennol drwy bwyso yma

Os ydych yn anfon eich ffurflen cynnig comisiwn drwy e-bost, byddwch yn ymwybodol y gall negeseuon e-bost fynd ar goll ac felly os nad ydych yn derbyn cadarnhad bod eich cynnig wedi'i dderbyn, ni fydd wedi'i drefnu ar eich cyfer.

Llinell Ffôn — pan fo llinell ffôn wedi'i harchebu gan gynigiwr.

Bydd aelod o staff yn ffonio'r rhif cyswllt cynradd ychydig funudau cyn y cyflwynir y lot y dymunwch roi cynnig arno. Yna byddant yn eich tywys drwy'r cynigion, gan roi cyfle i chi roi cynnig ar y lot.
Yn anffodus, prin yw'r nifer o linellau ffôn sydd ar gael yn y cyfleuster hwn. Cynigiwn y cyfleuster hwn i eitemau sy'n dueddol o werthu am £200 neu ragor yn unig.

Cynnig byw — cyfleuster sy'n eich caniatáu chi i wneud cynigion a gwrando ar ein hocsiwn Hen Bethau o'ch cartref.

Rydym yn cydweithio â The Sale Room sy'n ymdrin ag amrywiaeth o ocsiynau arbenigol a hen bethau ledled y DU.
Mae The Sale Room yn wahanol i sawl darparwr arall gan ei fod yn rhoi'r opsiwn i chi dalu tâl o 3%. Am ragor o wybodaeth pwyswch ar y ddolen ganlynol www.the-saleroom.com

Byddwch yn ymwybodol bod angen i ni gydymffurfio â Hawliau Ailwerthu Artistiaid. Cliciwch yma i lawrlwytho PDF am ragor o wybodaeth.

Os byddwch yn llwyddiannus gyda'ch cynnig comisiwn neu ffôn, bydd rhywun yn cysylltu â chi ar ddiwedd yr ocsiwn i drafod gofynion talu, casglu neu bostio a phacio.

Talu a chasglu nwyddau

Talu — Os mai chi yw cynigiwr llwyddiannus y lot(iau), bydd angen talu ar ddiwrnod yr arwerthiant.

Gellir talu gydag arian parod, siec neu gerdyn debyd. Derbyniwn daliadau drwy gardiau credyd.

Casglu — Gofynnwn i'r nwyddau sydd wedi'u prynu gael eu symud o'r Ystafell Werthu cyn gynted ag y bo'r taliad wedi'i wneud.

Nid oes gennym ein trafnidiaeth ein hunain, felly ni allwn gynnig gwasanaeth danfon nwyddau sydd wedi'u prynu. Fodd bynnag, mae gennym rifau cyswllt cludwyr lleol sy'n hapus i roi dyfynbris am y math yma o waith.

Pacio a phostio — Cynigiwn gyfleuster pacio a phostio i gynigwyr lotiau llai na all gasglu eu heitemau. Danfonwch neges at saleroom@morganevans.com am ragor o wybodaeth.