Amdanom Ni

Sefydlwyd y cwmni yn 1964 gan y Cadeirydd, Morgan Evans MBE FRICS FAAV ACIarbs, ac mae iddo enw da hirsefydledig a llwyr haeddiannol o ddarparu gwasanaethau personol o ansawdd dda i'w holl gwsmeriaid.

Wedi'i leoli yn Ynys Môn, Gogledd Cymru, gyda'i Brif Swyddfa ym mhrif dref farchnad Llangefni a'i Ganolfan Ocsiwn pwrpasol dafliad carreg i ffwrdd yng Ngaerwen, mae gan y cwmni enw da sy'n destun edmygedd o ddarparu gwasanaeth hynod bersonol trwy ei dîm hirsefydledig o arbenigwyr.

Nid cwmni o Arwerthwyr a Gwerthwyr Tai yn unig mohono, mae Morgan Evans yn enwog am yr ystod o wasanaethau arbenigol a gynigia i'w gwsmeriaid. A hwnnw'n llwyr annibynnol ac ymhlith y cwmnïau cynyddol brin hynny a all gynnig cyngor diduedd i'w cwsmeriaid.

Mae'r Cwmni wedi'i seilio ar werthoedd busnes cadarn a thraddodiadol sydd wedi galluogi iddo ffynnu a llwyddo dros gyfnod maith, ond nid yw'n anghyfarwydd â chynnydd ac arloesedd. Mae'n ymrwymedig i fuddsoddiad parhaus mewn technoleg fodern i ddarparu'r gwasanaeth gorau a'r mwyaf hygyrch i'w gwsmeriaid.