Ocsiynau a Thendrau

Gall gwerthu mewn ocsiwn fod y ffordd ddelfrydol i sicrhau eich bod yn ennill y pris gorau posibl ac osgoi unrhyw broblemau yn y camau olaf, gydag ocsiynau eiddo yn dod yn fwyfwy poblogaidd, yn aml gall y galw cynyddol am eiddo ocsiwn arwain at brisiau uwch.

Auctionss

Canllawiau Ocsiwn

Dogfennaeth Gyfreithiol

Bydd yr holl ddogfennau cyfreithiol, gan gynnwys holl gynnwys y pecyn ocsiwn cyfreithiol ar gael i'w harolygu cyn yr ocsiwn. Gallwch lawrlwytho'r pecyn cyfreithiol yn www.morganevans.com.

Nid yw dogfennaeth gyfreithiol ar gael drwy'r post, fodd bynnag gallwch eu harolygu yn swyddfa'r arwerthwr, neu yn yr ystafell ocsiwn cyn yr arwerthiant.

Dylai darpar brynwr arolygu'r pecyn cyfreithiol cyn yr ocsiwn, neu gael cynrychiolwr cyfreithiol i'w arolygu.

Mesuriadau a Chynlluniau

Mae'r holl feintiau a mesuriadau yn amcangyfrif ac nid ydynt i raddfa. Defnyddir y cynlluniau hyn at ddibenion adnabod yn unig.

Cynigion Cyn yr Ocsiwn

Rhaid gwneud cynigion cyn ociswn yn ysgrifenedig a'u gwneud dan amodau ocsiwn gyda'r prynwr yn talu blaendal o 10% a ffi weinyddu.

I gael eu hystyried, dylai unrhyw gynigion cyn ocsiwn fod yn sylweddol uwch na'r amcan bris.

Cynigion drwy Ddirprwy

Mae ffurflenni ar gael o'r swyddfa eiddo ar 01248 723303.

Ar y Diwrnod

Cynghorwn i gynigwyr posibl gyrraedd mewn da bryd, er mwyn cofrestru i gynnig. Bydd yr arwerthwyr yn bresennol 1 awr cyn i'r ocsiwn ddechrau.

Cofrestru

Rhaid i bob cynigiwr posibl gofrestru eu manylion cyn gwneud cynnig. Mae'r wybodaeth ofynnol yn cynnwys:

  • Enwau llawn a chyfeiriad(au) y prynwyr
  • Prawf adnabod
  • Prawf cyfeiriad

Cytundebau Ocsiwn

Pan drewir y morthwyl, y cynigiwr uchaf sy'n gyfreithiol rwym i'r pryniant. Yna, rhaid iddynt fynd ymlaen i lofnodi'r cytundeb a thalu isafswm blaendal o 10%.

Tâl gweinydduMae tâl gweinyddu o £1,000.00+TAW (£1,200.00) yn daladwy yr un pryd â'r blaendal cytundebol i bob lot a brynwyd.

Cysylltwch â'n Swyddfa yn Llangefni i drafod eich opsiynau ymhellach drwy ffonio 01248 723303.