Prisiadau Syrfëwr

Mae Ann Evans Jones yn Aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Graddiodd gyda Baglor Gwyddoniaeth (Anrhydedd) yn 2001 yn dilyn pedair blynedd o ryng-gwrs profiad gwaith yn astudio Menter Wledig a Rheolaeth Tir ym Mhrifysgol Harper Adams.

Mae ganddi 20 mlynedd o brofiad o ymdrin â materion y tir ar Ynys Môn ac yn ardal Gogledd Cymru, ac wedi gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac adran Tyddynnau Cyngor Sir Ynys Môn.

  • Gwerthu ffermydd a thir drwy gytundeb preifat ac ocsiwn cyhoeddus
  • Prisiadau - Profiant, Treth Elw Cyfalaf, Prisiadau Diweddaraf y Farchnad
  • Cynllunio Tref a Gwlad/Caffaeliadau Prynu Gorfodol
  • Rheoli Ystadau
  • Hawliau Iawndal - Dŵr, Pibell Nwy etc.